Sut galla’ i weld crynodeb o’m cofnod claf?
Cofiwch - Mae angen i’ch meddygfa alluogi’r cyfleuster hwn cyn y gallwch ei ddefnyddio.
- Mewngofnodwch i Fy Iechyd At-lein yn y ffordd arferol.
- Dewiswch Fy Nghrynodeb Meddygol:
-
Mae'r data clinigol canlynol o'ch cofnod meddygol yn dangos:
- Alergeddau - Alergeddau i gyffuriau a heb fod yn gyffuriau.
- Hanes eich presgripsiynau - Eich meddyginiaeth aciwt ddiweddar, meddyginiaethau amlroddadwy a meddyginiaethau sydd wedi dod i derfyn.
- Imiwneiddiadau - Mae’n dangos unrhyw imiwneiddiadau a roddwyd i chi.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.